Mae’n bleser mawr gennym eich cyflwyno i Adroddiad Effaith Blynyddol Ffederasiwn Mind Cymru.
Rydym yn rhannu gyda balchder y gwaith pwysig, sydd wedi newid bywydau mewn rhai achosion, sydd wedi bod yn mynd rhagddo ar hyd a lled Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gefnogi tua 37,000 o bobl ar eu taith tuag at well iechyd meddwl.
Nid oes angen dweud ei bod wedi bod yn flwyddyn gythryblus arall i’n cymunedau, lle mae llawer o bobl yn teimlo effaith yr argyfwng costau byw. Mae nifer o sefydliadau Mind lleol wedi bod yn cynnig cymorth gan gynnwys Mind Castell-nedd Port Talbot sydd wedi darparu cymorth am ddim i dros 60 o bobl yn lleol drwy eu rhaglen Arian a Fi, gan helpu pobl i ddeall yn well eu perthynas ag arian a’i effaith ar eu hiechyd meddwl.
Mae ein gwaith polisi ac ymgyrchu yn Mind Cymru wedi parhau i ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif, drwy lansio ein hadroddiad ‘Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) – Deng Mlynedd yn Ddiweddarach’.
Fe wnaethom lansio ein Strategaeth Rhwydwaith gyntaf erioed ar gyfer Cymru, ymdrech wirioneddol gydweithredol ar draws Ffederasiwn Mind sy’n nodi cynllun strategol tair blynedd i gefnogi mwy o bobl ac i sicrhau dyfodol cynaliadwy a dylanwadol i’r rhwydwaith Mind lleol yng Nghymru.
Wrth gwrs, ni fyddai hyn yn bosibl heb gefnogaeth, angerdd ac ymroddiad ein cefnogwyr, ein cyllidwyr, ein gwirfoddolwyr a’n gweithlu talentog yng Nghymru.
It goes without saying it has been another turbulent year for our communities, where many people are feeling the impact of the cost-of-living crisis. A number of local Mind organisations have offered support including Neath Port Talbot Mind who have provided FREE support to over 60 people locally through their Money & Me programme, helping people better understand their relationship with money and its impact on their mental health.
Our policy and campaigns work at Mind Cymru has continued to hold Welsh Government to account, launching the publication of our ‘Mental Health (Wales) Measure – Ten Years on’ report.
We launched our first ever Network Strategy for Wales, a truly collaborative effort across the Mind Federation that sets out a three-year strategic plan to support more people and secure a sustainable and impactful future for the local Mind network in Wales.
As we look ahead to 2023/24, this is an exciting and important time for our Federation in Wales, as we strive to be there for anyone living with a mental health problem, at a time where people aren’t receiving the support they need, or receiving it in a timely manner.