Un Mind yng Nghymru
Strategaeth Rhwydwaith i Gymru
2023/26
Ym mis Mawrth 2023, cyrhaeddwyd penllanw 18 mis o gydweithio a chyd-gynhyrchu wrth i’r rhwydwaith Mind lleol, Mind a Mind Cymru gwblhau’r Strategaeth Rhwydwaith gyntaf ar gyfer Cymru (2023/26) yn derfynol [1].
Mae’n egluro sut bydd gwasanaethau Mind lleol, Mind a Mind Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi mwy o bobl, gan greu Cymru iachach ar yr un pryd. Mae hefyd yn ceisio datblygu dyfodol cynaliadwy i’r rhwydwaith Mind lleol yng Nghymru, dyfodol lle gallant barhau i gyflawni’r gwaith pwysig sy’n newid bywydau sy’n cael sylw yn yr adroddiad hwn.
Mae’r strategaeth yn nodi pedair prif thema â blaenoriaeth i ni wneud cynnydd yn eu herbyn, gan gynnwys y canlynol:
Ymrwymiad i brofiad bywyd
2. Dylanwadu ar ein system iechyd meddwl yng Nghymru
3. Datblygu cynnig gwasanaeth cyffredinol/craidd
4. Dod yn Ffederasiwn mwy cynhwysol ac effeithiol
Wrth ddatblygu’r strategaeth, byddwn yn ystyried y cyd-destun strategol unigryw a’r amgylchedd allanol rydym yn gweithio ynddo yng Nghymru. Mae ein cynllun gweithredu sy’n sail i’r strategaeth yn cefnogi sut byddwn yn addasu ein hymdrechion er mwyn pwyso a mesur ein gwaith datganoledig yng Nghymru.
Mae ein Strategaeth Rhwydwaith wedi ei datblygu mewn cyd-destun o gyfnodau anodd a heriol, gan gynnwys yr argyfwng costau byw, amseroedd aros y GIG, heriau’r GIG a’r gweithlu gofal cymdeithasol, aflonyddwch gwleidyddol, a rhwygiadau yn ein cymunedau. Er gwaethaf hyn, ac mewn rhai ffyrdd, oherwydd hyn, rydym yn credu bod angen y gwaith mae grwpiau Mind lleol yn ei wneud yn awr yn fwy nag erioed.