Mae enghraifft o’r math o gymorth llesiant, cymorth cymdeithasol a grymuso ar gael yn cynnwys cymorth tai:
Mae’r rhwydwaith Mind lleol yn darparu ystod o wasanaethau cymorth cysylltiedig â thai, gan gynnwys Tai â Chymorth a Chymorth Tenantiaeth neu Gymorth yn ôl yr Angen (cymorth yn eich cartref eich hun).
Gan weithio mewn partneriaeth â Thimau Cefnogi Pobl Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai, mae grwpiau Mind lleol wedi darparu gwasanaethau i 2,270 o bobl â phroblemau iechyd meddwl. Mae llawer ohonynt wedi camu allan o lety â chymorth ac i mewn i gartref diogel a sicr eu hunain.
Mae’r rhaglen cefnogi pobl yn un o’r ffyrdd o gyflawni hyn gyda chefnogaeth grwpiau Mind lleol i:
gefnogi pobl i ddatblygu sgiliau i ffynnu'n annibynnol.
lleihau'r galw ar wasanaethau eraill.
atal neu leddfu digartrefedd lle bynnag y bo modd.