Rydyn ni’n cefnogi pobl
Wedi’i leoli yng nghalon Cymru, mae Mind Canol a Gogledd Powys yn darparu cymorth sy’n newid bywydau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn Ysgol Calon Cymru, drwy brosiect arloesol a ddatblygwyd gyda’r ysgol ar draws campysau'r ysgol yn Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod.
Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn gweithio mewn lleoliadau ysgol a chymunedol gan ddarparu cymorth un-i-un i bobl ifanc 11-25 oed trwy wasanaethau fel hunangymorth â chymorth. Hefyd mewn lleoliadau grŵp yn gweithio gyda sefydliadau partner megis ysgrifennu straeon gyda Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys.
Rwyf wedi casglu llawer o awgrymiadau mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.Byddaf yn bendant yn defnyddio'r holl wybodaeth. Eisoes, rwy'n teimlo fy mod wedi cael sgyrsiau mwy defnyddiol gyda fy mhlentyn sy'n ei arddegau.
Mae un rhan o’r Gwasanaeth Ieuenctid yn ymwneud a phrosiect arloesol a ddatblygwyd gydag Ysgol Calon Cymru ar draws campysau’r ysgol yn Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod.
Gan weithio mewn partneriaeth a'r Ysgol, dechreuodd y Mind lleol gefnogi disgyblion blwyddyn 12 a 13 ynghylch pwysau arholiadau.
Fodd bynnag, yn seiliedig ar angen sy’ncynyddu yng nghymuned yr ysgol, yn sgil y pandemig, ynghyd ag effaith costau byw ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, bu’r Mind lleol yn gweithio gyda’r ysgol i ail-lunio’r gwasanaeth a gostwng yr ystod oedran i gefnogi mwy o ddisgyblion.
Rhoddwyd pecyn o gymorth lles ac emosiynol wedi’i deilwra ar waith i fwy o ddisgyblion yn yr ysgol gan gynnwys cymorth un-i-un a chlybiau llesiant grŵp, gyda'r sesiynau’n werthfawr iawn i'r rhai sy’n ymgysylltu. Dywedodd llawer o gyfranogwyr fod y gefnogaeth wedi newid eu bywyd.
O ganlyniad i gefnogaeth leol Mind, bu disgyblion Ysgol Calon Cymru yn rhannu offer a thechnegau ar gyfer gwell iechyd meddwl, a gafodd sylw fel rhan o weithgareddau Mind Cymru ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid.
Mae gan un ym mhob chwech o blant a phobl ifanc broblemau iechyd meddwl y gellir eu diagnosio [3]
Iechyd meddwl yw’r mater sy’n cael ei godi amlaf gyda Chomisiynydd Plant Cymru [3]
Mae un o bob tri o bobl yng Nghymru yn byw mewn ardal sy’n cael ei hystyried yn wledig, sy’n cyflwyno heriau o ran cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl ac ynysu a allai wneud problemau iechyd meddwl yn waeth [4]
Roedd Mind Canol a Gogledd Powys wedi cefnogi 176 o blant a phobl ifanc drwy ei Wasanaeth Ieuenctid gan gynnig a chyflawni’r canlyniadau canlynol:
Dywedodd 95% o bobl ifanc fod y gefnogaeth wedi eu helpu i ganfod a mynd i’r afael â’r hyn sy’n bwysig iddynt.
Dywedodd 85% fod eu hiechyd meddwl wedi gwella oherwydd y gefnogaeth.
Dywedodd 89% eu bod yn teimlo eu bod yn gallu ymdopi â heriau yn y dyfodol yn well.
Roedd 98% yn teimlo bod rhywun wedi gwrando arnynt, a bod eu lleisiau wedi cael eu clywed.
Dywedodd 82% fod cefnogaeth wedi eu helpu i symud tuag at y bywyd roedden nhw eisiau ei fyw.
Yn ystod y cyfnod adrodd, cefnogwyd 3,697 o blant a phobl ifanc gan wasanaethau a oedd yn digwydd mewn ysgol a lleoliad cymunedol, gan gynnwys cymorth un i un a chymorth grŵp, ynghyd â hunangymorth â chymorth mewn lleoliad ysgol.
Rwy’n hoffi’r help a fy mod yn gallu siarad heb gael fy marnu.
Mae'r fideo yn dangos pa mor angerddol yw Lorna, o Mind Canolbarth a Gogledd Powys am ddatganiadau cadarnhaol.
Mae Arian a Fi yn adnodd gan Mind sy'n cael ei ddarparu gan Mind Castell-nedd Port Talbot. Y nod yw cefnogi pobl yn eu cymuned sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl a’u harian.
Mae’n rhaglen 6 wythnos rhad ac am ddim sy’n helpu pobl i ddeall eu perthynas ag arian yn well a sut gall hyn effeithio ar eu hiechyd meddwl. Derbynnir atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol a hunanatgyfeiriadau.
Byddai 100% o’r buddiolwyr yn argymell Arian a Fi i ffrind.
Ar gyfartaledd, roedd y buddiolwyr yn dweud bod eu gorbryder** a’u hiselder*** yn llai
*Cynnydd o 1 pwynt yn sgoriau SWEMBS, sy’n dangos gwelliant mewn llesiant.
**Gostyngiad o 3 phwynt ar gyfartaledd yng nghyswllt sgoriau Anhwylder Gorbryder Cyffredinol (GAD-7)
**Gostyngiad o 4 pwynt ar gyfartaledd yn yr Holiadur Iechyd Cyfranogwyr (PHQ-9), sy’n cynrychioli symudiad o iselder gweddol ddifrifol i iselder cymedrol.
On average, beneficiaries reported better overall wellbeing indicated by a 1-point improvement through the Short Warwick-Edinburgh Mental Well-being Scale (SWEMWBS)
On average, beneficiaries reported a reduction in anxiety, reporting a 3-point reduction in scores through the General Anxiety Disorder Scale (GAD-7)
On average, beneficiaries reported a reduction in feelings of depression, reporting a 4-point reduction in scores through the Patient Health Questionnaire (PHQ-9), representing a movement from moderately severe to moderate depression severity.
Mae cymorth unigol un i un a ddarperir yn bersonol, ar-lein neu dros y ffôn wedi’i gynllunio i helpu pobl i ddatblygu sgiliau a hyder i reoli eu hiechyd meddwl yn well mewn cyfnodau o anhawster ariannol.
Yng Nghymru, mae 20% o oedolion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn dweud eu bod yn cael eu trin am gyflwr iechyd meddwl, o’i gymharu ag 8% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. [5]
Dywedodd 61% o oedolion yng Nghymru fod eu sefyllfa ariannol bresennol yn niweidiol i’w hiechyd meddwl. [6 The Guardian]
Dywedodd 51% o bobl a gymerodd ran mewn arolwg Mind y byddai ganddynt ddiddordeb mewn gwasanaeth cymorth sy’n cyfuno iechyd meddwl a chymorth ariannol [7. Mind]
Mae Mind Castell-nedd Port Talbot wedi cefnogi dros 90 o ddefnyddwyr gwasanaeth trwy raglen 6 wythnos Arian a Fi.
Mae 61 o bobl ychwanegol wedi cael eu cefnogi trwy weithdai ar wahân i'r rhaglen 6 wythnos.
Ledled Cymru, mae 6,558 o bobl wedi cael cymorth ar draws gwasanaethau Mind lleol ar faterion sy’n ymwneud ag arian, gan gynnwys y canlynol:
Cyngor ar les a budd-daliadau ac ar reoli dyledion ac arian
Cymorth cyflogaeth
Cymorth tai
Mae problemau ariannol ac iechyd meddwl yn bodoli mewn cylch dieflig. Gall iechyd meddwl gwael ei gwneud yn anodd rheoli arian ac i'r gwrthwyneb.
Cafodd ymrwymiad parhaus Mind Cymru i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau sydd wedi’u hiliaethu yng Nghymru ei gydnabod pan enillodd Wobr Arian Diverse Cymru fel rhan o Gynllun Ardystio Cymhwysedd Diwylliannol Diverse Cymru. Ar y pryd, roedd yn un o ddim ond saith sefydliad yng Nghymru i gael ardystiad o’r fath.
Mae’r cynllun yn adnodd datblygu gweithle arobryn a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sydd ar gael i sefydliadau’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, gan gynnwys byrddau iechyd lleol Cymru ac elusennau iechyd meddwl blaenllaw. Mae’n cael ei ddilysu’n annibynnol gan nod siarter Buddsoddwr mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y DU (UKIED) a’i gymeradwyo gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.
Mae’r cynllun wedi helpu Mind Cymru â’i hunanasesiad cychwynnol o’i ddull presennol o ymdrin â chydraddoldeb a chymhwysedd diwylliannol yn y gweithle. Mae cynllun gweithredu’n cael ei ddatblygu o ganlyniad i hyn er mwyn cefnogi datblygiad a gwelliant parhaus o ran sicrhau bod gwasanaethau’n deg ac yn gyfartal i bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.
Fel rhan o weithio tuag at y wobr, roedd Mind Cymru hefyd wedi elwa o gyfres o sesiynau ymwybyddiaeth ar gyfer staff ac aelodau pwyllgor ar bynciau fel y canlynol: Gwahaniaethau, Diwylliant, Rhagfarn Ddiarwybod ac ystyriaethau Ymarferol er mwyn gwella cymhwysedd diwylliannol mewn ymarfer.
Yn dilyn gwobr Mind Cymru ac fel rhan o’r strategaeth ‘Un Mind yng Nghymru’, mae uchelgais i’r rhwydwaith Mind lleol ymgymryd â’r cynllun ardystio yn eu sefydliadau eu hunain, gan sicrhau bod eu cymorth a’u gwasanaethau iechyd meddwl yn deg ac yn gyfartal yn eu hardal leol. Beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig? Byddwn yn gweithio tuag at gyrraedd y safon aur wrth gwrs.
Mae mwy nag 1 o bob 4 o bobl o gymunedau sydd wedi’u hiliaethu wedi cael problemau wrth gael cymorth iechyd meddwl ac yn teimlo nad oedd y cymorth roedden nhw’n ei gael yn effeithiol [7]
Mae pobl ddu 40% yn fwy tebygol o gael eu troi ymaith wrth geisio cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl [8]
Mae pobl ddu bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl na phobl wyn [9]
Ledled Cymru, roedd 1,996 o bobl a oedd yn ystyried eu bod yn perthyn i gymuned ethnig amrywiol wedi cael cymorth gan wasanaethau Mind lleol yn ystod y cyfnod adrodd.
(Monitro Gweithredol gynt) yn wasanaeth iechyd meddwl a lles sy’n seiliedig ar dystiolaeth i unrhyw un dros 18 oed.
Mae’r gwasanaeth ar gael am ddim ac yn darparu rhaglen 6 wythnos o hyd y gall cyfranogwyr ei dilyn yn ôl eu cyflymder eu hunain i gefnogi pobl i ddeall a rheoli eu teimladau’n well.
o'r buddiolwyr wedi adrodd lefelau gwell o ran gorbryder
wedi adrodd iddynt brofi lefelau gwell o ran iselder
wedi profi lefelau gwell o ran llesiant
o’r cleientiaid yn fodlon argymell y gwasanaeth hwn
Ledled Cymru, cefnogodd y gwasanaeth 6,400 o bobl (6,000 2021/22) diolch i’r cydweithio a’r ddarpariaeth ar y cyd ar draws yr holl wasanaethau Mind lleol yng Nghymru.
Rwy’n credu y dylai pawb gael mynediad at wasanaeth fel hwn – gan fod pobl yn gorfod aros mor hir am gymorth iechyd meddwl, byddai'n wych pe bai pawb yn cael ymarferydd hyfforddedig i siarad ag ef am unrhyw broblemau iechyd meddwl sydd ganddynt.
(16% yn 2021/22)
(4% yn 2021/22)
(45% yn 2021/22)