Rydyn ni’n newid pobl
Mae Mind Cymru wedi parhau i frwydro dros well gwasanaethau a hawliau i bobl sydd â phroblem iechyd meddwl, gan ymdrechu ar yr un pryd i wella agweddau’r cyhoedd tuag at iechyd meddwl.
Mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn ddarn allweddol o ddeddfwriaeth yng Nghymru sy’n ceisio sicrhau newidiadau ystyrlon i’r rheini sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl.
Bwriad y mesur yw gwella hawliau pobl, o fynediad at driniaeth mewn gofal sylfaenol i ymestyn hawliau pobl i eiriolaeth yn yr ysbyty.
Er bod y mesur yn sicr wedi gwella gwasanaethau iechyd meddwl, mae dipyn o ffordd i fynd eto cyn y gwelwn y newid y mae’n bwriadu ei gyflawni. Mae hyn yn arbennig o wir yng nghyswllt plant a phobl ifanc lle canfuwyd bod yr amseroedd aros yn hirach na’r amseroedd aros ar gyfer oedolion.
Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd Mind Cymru ei adroddiad ar y mesur:
Yn yr adroddiad, gwnaeth Mind Cymru un ar ddeg o argymhellion i Lywodraeth Cymru, i sbarduno newid yn y ffordd y mae’r mesur yn cael ei gyflawni ac i weld ail-ymrwymiad ymysg y rhai sy’n gwneud penderfyniadau tuag at gyflawni ei uchelgeisiau.
Mae’r adroddiad yn darparu asesiad ac argymhellion yn ôl 4 amcan y mesur.
Dyma argymhellion y mesur:
Gwasanaeth iechyd meddwl sylfaenol lleol
Cynllunio gofal a thriniaeth
Asesu pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol o’r blaen
Eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol
Ym mis Mai 2022, lansiodd Mind Cymru yr ymgyrch Sortiwch y Switsh [11], gan ganolbwyntio ar brofiadau pobl ifanc wrth iddynt symud o wasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a phobl ifanc (SCAMHS) i wasanaethau iechyd meddwl i oedolion (AMHS).
Roedd pobl ifanc wedi gyrru’r ymgyrch yn ei blaen, gan gwrdd â Phwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ym mis Tachwedd 2022. Yn y pwyllgor roeddent wedi galw am wella’r newid o wasanaethau iechyd meddwl plant i wasanaethau iechyd meddwl oedolion, a nodwyd yn adroddiad dilynol y pwyllgor ac a oedd yn sail i’r Ymgyrch Sortiwch y Switsh.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys 4 gofyniad ar Lywodraeth Cymru i wneud y newid o wasanaethau iechyd meddwl plant i wasanaethau iechyd meddwl oedolion yn well.
Gwrando ar leisiau pobl ifanc yng Ngwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed (SCAMHS) a gweithredu arnynt
Sicrhau bod canllawiau cenedlaethol yn cael eu darparu, a bod pobl ifanc yn cael yr help y mae ganddyn nhw’r hawl iddo.
Cefnogi pobl ifanc pan fyddant yn gadael SCAMHS. Helpu i wneud y broses o symud i wasanaethau oedolion yn gam cadarnhaol tuag at adferiad.
Newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu rhedeg, er mwyn cynnwys lleisiau pobl ifanc yn well.
Un o’r bobl ifanc oedd yn rhan o’r ymgyrch yw Georgia, o dde Cymru. Mae hi wedi dangos dewrder mawr wrth rannu ei thaith drwy ei blog ei hun, ‘the Grey Space’ [12], taith mae hi’n dweud sydd wedi gwneud iddi deimlo’n unig ac yn ddryslyd. .
Mae Georgia nawr yn defnyddio ei phrofiadau ei hun i ymgyrchu gyda Mind Cymru ac i gefnogi ein hymgyrch Sortiwch y Switsh, gan alw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar bobl ifanc a’u profiadau, i roi trefn ar y newid o CAMHS i AMHS.
Mwy ar stori Georgia [13] Georgia ar raglen Sharp End, ITV Wales, [14]