Es i at Mind Llanelli ac fe wnaethon nhw fy nghefnogi drwy bopeth. Ar y dechrau, ro’n i’n nerfus ac yn ofnus. Ond fe wnaeth y ffordd y ces i fy nghyfarch fyd o wahaniaeth.
Rydw i wedi bod yn dod yma ers blwyddyn a hanner. Mae’n lle da. Mae fy ngrŵp Mind lleol wedi helpu mewn cynifer o ffyrdd. Fe wnaethon nhw fy helpu gyda’m hyder ac fe wnaeth y cynllun cyfeillio fy helpu i ymlacio ychydig bach mwy wrth i mi fynd o gwmpas. Cefais fy annog i fentro, a rhoi cynnig ar bethau na fyddwn i byth wedi meddwl y byddwn yn eu hoffi. Nawr, bob wythnos, rwy’n mynd i’r grŵp cerdded, a’r grŵp clywed lleisiau ac rwy’n gwneud gwaith celf yma.
Mae’r amgylchedd yn gwneud i mi ddod yn ôl. Dw i ddim yn gwybod pam, ond mae’n gweithio. Rwy’n cael llai o iselder ac rydw i’n fwy pwyllog. Rydw i wedi cyfarfod pobl arbennig ac rydyn ni i gyd yn helpu’n gilydd. Mae wedi newid y ffordd rydw i’n teimlo am fywyd.