Pan ddaeth Brett (newidiwyd ei enw) i’r Noddfa am y tro cyntaf roedd yn bryderus iawn ac yn cael anhawster â diagnosis iechyd meddwl yr oedd wedi’i gael yn ddiweddar. Doedd ganddo ddim cartref sefydlog, ac roedd yn cael anhawster i gael y gefnogaeth ‘iawn’.
Wrth ddod drwy’r drws y noson gyntaf honno, roedd yn wlyb at ei groen ar ôl bod allan yn y glaw ac yn teimlo’n anobeithiol. Ar ôl cael cawod a phaned o de, dechreuodd rannu ei stori a dweud sut y cafodd ei hun yn ddigartref, ac yn byw mewn pabell gerllaw.
Cyfeiriodd y grŵp Mind lleol Brett at brosiect ‘Arian ac iechyd meddwl’ (Partneriaid ar y Daith) a lwyddodd i’w helpu i gael pas bws a thrên.
Parhaodd Brett i ymweld â’r Noddfa gyda’r nos yn ystod y penwythnos a chafodd gefnogaeth 1 i 1 i siarad a gweithio ar ei hunan-dyb.
Ar ôl cael cefnogaeth amlasiantaethol gan Mind yn Sir Benfro, Cyngor Sir Penfro a Chymdeithas Gofal Sir Benfro, cafodd Brett lety dros dro. Roedd hyn yn golygu bod ganddo do dros ei ben, a hefyd bod ganddo WiFi er mwyn cadw mewn cysylltiaid â phobl agos ato ac adeiladu cysylltiadau.
Bellach, â hyder newydd ac ymdeimlad o obaith, mae Brett yn edrych tua’r dyfodol. Mae ganddo gynllun i godi ymwybyddiaeth o’r problemau y mae pobl ddigartref yn eu hwynebu yn aml.