Mae teilwra cefnogaeth a diwallu angen lleol bob amser ar ben rhestr grwpiau Mind lleol, yn enwedig gyda chymunedau amrywiol Cymru. Dyma pam roedd uchelgais, ar y cyd, fel rhan o’n Strategaeth Rhwydwaith ar gyfer Cymru er mwyn gweithio tuag at fod yn rhwydwaith mwy cymwys o safbwynt diwylliannol.
Powys, er enghraifft, yw awdurdod lleol mwyaf Cymru o ran arwynebedd tir (tua chwarter arwynebedd Cymru), ond dyma’r ardal â’r boblogaeth fwyaf gwasgaredig.
A phan wnaeth data Mind Canolbarth a Gogledd Powys ddangos bod ganddynt lai o bobl o gymunedau ethnig leiafrifol yn dod drwy’r drysau na gweddill Cymru, fe weithredodd. Er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cynrychioli’r gymuned fawr ond gwledig hon yn deg, cofrestrwyd ar gyfer cynllun Ardystio Cymhwysedd Diwylliannol Diverse Cymru.