Maes pwysig arall y tynnwyd sylw ato yn y strategaeth iechyd meddwl a llesiant ddrafft, oedd yr angen am well cefnogaeth i bobl ifanc wrth iddynt drosglwyddo o wasanaethau iechyd meddwl plant i wasanaethau oedolion.
Ers lansio ymgyrch Sortiwch y Switsh yn 2022, a oedd yn tynnu sylw at y mater yma, rydym wedi parhau i frwydro dros newid ochr yn ochr â’n hymgyrchwyr ifanc.
Mewn cyfarfod gyda Phwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Llywodraeth Cymru, rhannodd ymgyrchwyr ifanc eu profiadau personol o ofal ar ôl cyrraedd 18 oed. Cafodd eu storïau emosiynol am yr effaith andwyol a gafodd hyn ar adferiad eu hiechyd meddwl effaith fawr ar y gwleidyddion a oedd yn bresennol.