Roedd y boblogaeth leol o forloi, a phobl sy’n mwynhau mynd i ddŵr oer y bae, yn ysbrydoliaeth i Mind Conwy drefnu trochfa lwyddiannus yn y môr. Roedd yr her hefyd yn adlewyrchu’r anawsterau emosiynol y mae rhai pobl yn eu hwynebu wrth siarad am eu hiechyd meddwl.
Ddydd Sul 4 Chwefror 2024, mentrodd 71 o bobl i mewn i ddŵr oer y môr a chodwyd dros £7,000. Mae’r digwyddiad codi arian hwyliog ac uchelgeisiol hwn wedi galluogi Mind Conwy i ehangu ei wasanaeth pobl ifanc, o wasanaeth ar gyfer pobl ifanc 16 a throsodd, i wasanaeth ar gyfer plant 11 oed a throsodd, sy’n golygu bod mwy o bobl ifanc yn gallu cael mynediad at wasanaethau fel hunangymorth â gefnogir neu alwadau cefnogi rheolaidd yn awr.